Total Pageviews

Friday 6 April 2007

'T Rowland Hughes - y dewraf o'n hawduron'


Y Cymro - 6/4/07

Roedd na ddrama ar waith, cyn i’r un actor o Gymdeithas y Gronyn Gwenith gamu ar lwyfan Theatr Seilo yng Nghaernarfon nos Wener ddiwethaf. Eistedd a mwynhau gwylio’r cast yn cyrraedd - bob un a’i fag neu’i fasged, a’u gwisgoedd cyfoes yn cuddio’r cyfnod; y bysiau wedyn yn brwydro am le i barcio, a rheiny wedi teithio o Gaergybi, Llanrwst, Y Felinheli a Manceinion. Bob un yn llawn o ddilynwyr selog y ‘pasiant’ blynyddol, ac eleni ar gyfer eu degfed-sioe-ar-hugain, dyma gyflwyno hanes ‘Y Dewraf o’n hawduron’ sef T Rowland Hughes.

Y Parchedig Harri Parri fu’n gyfrifol am y sgript, a rhaid talu teyrnged arbennig iddo am lunio cyfanwaith llwyddiannus iawn oedd yn cyfleu bywyd a gwaith y llenor arbennig hwn; dyma lenor ‘a droes ei salwch yn hamdden’ yng ngeiriau Wil Ifan ddydd ei angladd, a thrwy gaethiwed ei salwch a roddodd inni berlau llenyddol fel y nofelau ‘William Jones’, ‘O Law i Law’ a ‘Chwalfa’. Rhoes inni hefyd gerddi ac emynau a dramâu fel y gwelsom drwy’r saith-golygfa-ar-hugain mewn dros ddwy-awr o sioe. O’i gartref yng Nghaerdydd i Lanberis ei blentyndod, neu o fyd dychmygol ei nofelau i’r Stiwdio BBC, cawsom flas o gyfraniad eithriadol T Rowland Hughes i’r byd llenyddol.

Fel un sydd eisioes wedi gweld sawl sioe gan y criw talentog yma, ac fel un sydd wedi bod yn ymwneud â sioeau tebyg iawn ym Mhwllheli, fedrai ddim ond talu teyrnged o’r mwyaf i’r cast a’r criw hefyd am eu brwdfrydedd a’u gwaith caled hollol ddi-dâl dros y blynyddoedd. Mwynhâd y criw sy’n plesio, ac mae’r mwynhâd hwnnw yn cael ei drosglwyddo yn llwyddiannus iawn i’r gynulleidfa.

Cafwyd perfformiadau cofiadwy gan sawl aelod o’r cast eto eleni - a rhaid imi sôn yn arbennig am y tri gŵr gafodd y dasg o bortreadu'r awdur ei hun; Dr W Gwyn Lewis yn gyntaf fel y Tom Rowland hŷn yn gaeth yn ei gadair, ac yn ddibynnol wrth ei wraig yn eu cartref ‘Ger-y-llyn’ yng Nghaerdydd. Owen Williams wedyn a’i fop o wallt coch trawiadol yn swyno’r gynulleidfa fel y Tom Rowland ifanc ar y stryd yn Llanberis. Roeddwn i wedi dotio at aeddfedrwydd yr actor ifanc hwn ac roedd ei wylio yn cyd-actio ac yn ymateb i actorion oedd llawer yn hŷn nag ef yn wefreiddiol. Yna Dafydd Hughes fel y Tom fymryn yn hŷn a’i ddyddiau fel cynhyrchydd yn y BBC - actor arall y dylid gweld llawer mwy ohono ar lwyfannau a rhaglenni teledu yng Nghymru. Roedd ei fynegiant cwbl glir a chlywadwy yn wers FAWR i sawl actor profiadol! Da iawn yn wir. Yr unig wendid o ran cysondeb oedd lliw’r gwallt - gan fod gwallt Owen yn goch mor drawiadol, a’r ddau actor hŷn yn dywyll, efallai at dro nesa, y dylid ystyried ei dywyllu fymryn, sy’n hawdd iawn ei wneud y dyddiau hyn!

Er y byddai ambell i aelod o’r gynulleidfa wedi dymuno gweld mwy o ganu yn y sioe eleni, fel yn y blynyddoedd a fu, mae’n rhaid imi ddweud fy mod i’n bersonol wedi ei mwynhau hi’n fawr iawn. Roedd ôl graen ymarfer cyson ar y cwbl, a’r sioe yn symud o un olygfa i’r llall yn rhwydd a di-lol. Cafodd hiwmor T Rowland Hughes ei gyfleu yn llwyddiannus iawn, a rhai o’i linellau enwocaf fel ‘Cadw dy blydi chips!’ yn derbyn y gymeradwyaeth haeddiannol.

Oedd, roedd na ddrama ar waith tu mewn i Theatr Seilo yn ogystal, a honno yn ddrama gynnes a chofiadwy. Ymlaen at y nesa, ia?...!

No comments: